Cwrdd â’r Tîm

Dawood Haddadi – Pennaeth y Tîm Archwilio ar y Cyd, Cyfarwyddwr Gweithredol, Tîm Archwilio ar y Cyd ar gyfer Diogelwch Adeiladau (Cymru) Cyf
Mae Dawood yn ymarferydd iechyd yr amgylchedd siartredig ac ymgynghorydd tai ac adeiladu a ddechreuodd ei yrfa mewn eiddo yn gweithio i Awdurdod Lleol Glannau Mersi gan sicrhau bod stoc tai’r sector breifat a stoc tai’r Awdurdod Lleol ei hun yn bodloni’r safonau presennol. Mae wedi gweithio mewn sawl swydd uwch reoli o fewn y llywodraeth leol ac mae ganddo brofiad sylweddol mewn paratoi adroddiadau arbenigol a phroffesiynol, mynychu’r llys a darparu tystiolaeth. Mae ganddo brofiad sylweddol mewn darparu gwasanaethau ymgynghorol i awdurdodau lleol ar draws Lloegr ac i ddarparwyr cofrestredig.
Mae prosiectau Dawood wedi cynnwys datblygiadau mawr fel trawsnewid y Pentref Olympaidd o Bentref yr Athletwyr i Bentref y Dwyrain, un o ddatblygiadau preswyl mwyaf y DU. Mae wedi cynghori amryw o Gymdeithasau Tai yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr ar ddiogelwch tân, cydymffurfiaeth, materion landlordiaid a thenantiaid, adfeiliad a chynhwysiant.
Yn hyfforddwr profiadol, mae gan Dawood brofiad sylweddol mewn darparu cyrsiau hyfforddiant yn genedlaethol ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys materion technegol.
Yn ei amser rhydd prin mae Dawood yn mwynhau treulio amser gyda’i ffrindiau a’i deulu sy’n byw yn y DU, yr Almaen, a Phortiwgal.

Russ McGrath – Prif Ymgynghorydd Diogelwch Tân
Dechreuodd Russ ei yrfa yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Prydain yn 1987 ac mae wedi gweithio yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Swydd Hertford a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gan ymddeol yn 2019. Mae Russ wedi bod yn ymwneud â diogelwch tân fel swyddog cydymffurfiaeth a swyddog gorfodi gan weithio yn ystod y trosglwyddiad o’r Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 a’r Rheoliadau Rhagofalon Tân (Yn Y Gwaith) 1997 i’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
Yn ystod y cyfnod hwn, ymgymerodd Russ â modiwlau Diogelwch Tân Coleg y Gwasanaeth Tân a llwyddo i gwblhau HNC mewn Astudiaethau Adeiladu (Dynameg Tân) drwy Brifysgol De Cymru. Ers gadael y Gwasanaeth Tân ac Achub, mae Russ wedi gweithio i ddarparwyr cydymffurfiaeth diogelwch tân ac iechyd a diogelwch cenedlaethol, yn bennaf yn ymwneud ag asesiadau risg tân, strategaeth tân, a gwaith rheoliadau adeiladu. Mae hefyd wedi cael profiad helaeth mewn asesu adeiladau preswyl risg uchel, adeiladau amlfeddiant, tai amlfeddiannaeth, ffatrïoedd, swyddfeydd, cartrefi gofal ac ysbytai.
Mae Russ wedi ennill Statws Aelod Sefydliad y Peirianwyr Tân (MIFireE) ac mae’n Asesydd Risg Tân Cofrestredig Sefydliad y Peirianwyr Tân. Mae Russ yn gyn-Arholwr Cenedlaethol ar gyfer tystysgrif Rheoli Risg a Diogelwch Tân NEBOSH.
Tom Marchant - Prif Beiriannydd Tân
Graddiodd Tom o Brifysgol Sheffield gyda BA (Anrh) mewn Astudiaethau Trefol a Chynllunio. Ymunodd â’r Gwasanaeth Tân yn 2011 gan weithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ddechrau. Yn 2014 symudodd i Wasanaeth Tân Gorllewin Canolbarth Lloegr gan wasanaethu’n gyntaf fel diffoddwr tân gweithredol a swyddog iau ac yna fel Swyddog Archwilio Diogelwch Tân. Yno enillodd Tom Ddiploma Lefel 4 mewn Diogelwch Tân a daeth yn arweinydd tîm Rheoliadau Cynllunio ac Adeiladu cyn symud i’r Tîm Peirianneg Tân. Mae’r rolau blaenorol hyn o fewn diogelwch tân deddfwriaethol wedi cynnwys archwilio adeiladau preswyl uchel yn ystod gwaith adeiladu a meddiannu, adolygu strategaethau tân, mynychu adolygiadau dylunio meintiol, dilysu modiwlau tân dynameg hylif cyfrifiadol, a darparu cyflwyniadau peirianneg tân mewnol ac allanol.
Ers 2020 mae Tom wedi bod yn astudio ar gyfer gradd mewn Peirianneg Tân ym Mhrifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn ac mae wedi dewis parhau i weithio tuag at MEng mewn Peirianneg Tân. Y tu allan i’r gwaith mae Tom yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu a’i ffrindiau ac mae ganddo swydd wirfoddol fel Trysorydd Cangen y De ar gyfer Sefydliad y Peirianwyr Tân (IFE).

Rob Ellison – Prif Ymgynghorydd Iechyd yr Amgylchedd
Graddiodd Rob Ellison mewn Iechyd yr Amgylchedd o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2015. Roedd Rob yn Swyddog Tai Technegol yn awdurdod lleol prysur Cyngor Bwrdeistref Hastings ac yna yng Nghyngor Dinas Bryste gan ganolbwyntio ar wella safonau tai i wella iechyd y cyhoedd ar gyfer amrywiaeth o eiddo preswyl yn cynnwys tai amlfeddiannaeth mawr.
Arbenigodd Rob mewn iechyd a diogelwch tai a gorfodaeth tai trwyddedig gan fynd i’r afael ag amodau tai gwael a chefnogi diogelwch ac iechyd tenantiaid y sector rhentu preifat a thenantiaid cymdeithasau tai rhwng 2015 a 2022. Cymerodd Rob swydd ran-amser i gefnogi dull Cymru o olrhain cysylltiadau o fewn Sir Fynwy rhwng 2020 a 2022 yn ystod y pandemig COVID-19 ochr yn ochr â’i swydd barhaol yn ymwneud â thai. Yn y pen draw ymgymerodd â swydd Swyddog Arbenigol Iechyd yr Amgylchedd yn Nhîm Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir Fynwy yn 2022.
Secondiwyd Rob o Gyngor Sir Fynwy i’r Tîm Archwilio ar y Cyd i ganolbwyntio ar ddefnydd peryglon diogelwch tân mewn eiddo amlfeddiannaeth uwch drwy lens y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai sef ei arbenigedd craidd ar draws ei swyddi sy’n ymwneud â thai. Yn ei amser rhydd mae gan Rob fywyd teuluol prysur ac mae’n mwynhau mynd am dro ymysg natur neu ar hyd y traeth yn ogystal â beicio modur pan mae ganddo’r amser (a’r tywydd) i wneud hynny.

Kyle Higgins – Prif Ymgynghorydd Rheoli Adeiladu
Mae gan Kyle arbenigedd helaeth mewn prosiectau adeiladu a rheoli risg. Wedi’i addysgu ym Mhrifysgol De Cymru, mae ei daith academaidd wedi rhoi set sgiliau cynhwysfawr iddo sy’n cynnwys arolygu adeiladau uwch a dealltwriaeth drylwyr o ddeddfwriaeth a rheoli asedau strategol. Mae ei brofiad proffesiynol yn cynnwys patholeg adeiladu, amgylcheddau adeiledig mecanyddol a thrydanol, strategaeth ynni, cydlynu ôl-osod, cyllid, caffael, rheoli contractau, a’r sector tai, i gyd wedi’u tanategu gan wybodaeth fanwl am gyfraith, polisi a strategaeth berthnasol.
Mae gyrfa Kyle wedi cynnwys ymgymryd â rolau sylweddol mewn rheoli asedau a phrofiad ymarferol fel gweithiwr crefft wedi’i gyfoethogi ymhellach gan wasanaeth canmoladwy yn y Lluoedd Arfog. Mae’r profiadau hyn wedi mireinio ei sgiliau datrys problemau a’i alluoedd arweinyddiaeth gan roi’r sgiliau iddo i fynd i’r afael ar heriau a dyletswyddau ei swydd bresennol. Mae’n allweddol o ran archwilio adeiladau preswyl risg uchel gan sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a darparu cyngor hanfodol i wella mesurau diogelwch ar draws Cymru.
Y tu hwnt i’w ymrwymiadau proffesiynol, mae Kyle yn mwynhau hyfforddi tîm pêl-droed iau. Mae teulu yn golygu popeth iddo ac mae’n trysori pob eiliad y mae’n ei dreulio gyda nhw.