JIT Wales Logo

Tîm Archwilio ar y Cyd Cymru

Golygfa ddinesig Cymru

Croeso

Mae Tîm Archwilio ar y Cyd Diogelwch Adeiladau (Cymru) Cyf yn gweithredu gyda chyllid a chymorth gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae ein gweledigaeth yn un gyffrous a heriol - rydym wedi ymrwymo i hybu diogelwch adeiladau preswyl amlfeddiant yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi ffurfio partneriaeth ddeinamig gyda’r Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Lleol.

Yn y Tîm Archwilio ar y Cyd rydym yn credu yng ngrym cydweithrediad a chydweithio. Rydym yn gweithredu fel tîm aml-ddisgyblaethol clos sy’n gweithio ar y cyd â’r Awdurdodau Lleol a’r Awdurdodau Tân ac Achub. Ein prif amcan yw archwilio, asesu a chynnig arweiniad a chefnogaeth arbenigol. Mae ein hymdrechion ymroddedig wedi'u hanelu at sicrhau amgylchedd adeiledig mwy diogel i bawb.

Yma fe gewch wybodaeth werthfawr ynglŷn â’n cenhadaeth, ein gweledigaeth a’r cynnydd yr ydym yn ei wneud. Ymunwch â ni ar ein taith i greu amgylchedd byw sy’n fwy diogel ar gyfer cymunedau ar hyd a lled Cymru. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth go iawn o ran diogelwch adeiladau.

Bydd y Tîm yn dod â chynhwysedd ychwanegol i archwiliadau mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Datblygir rhaglen o archwiliadau ar hyn o bryd. Bydd y tîm yn gweithredu mewn modd ymgynghorol ac ni fydd ganddo bwerau gorfodi. Fodd bynnag bydd yn rhoi cyngor ac yn gwneud argymhellion i awdurdodau gorfodi presennol gan gynnwys adroddiadau amser real ar faterion o bryder sylweddol, adroddiadau manwl i awdurdodau gorfodi, cyfarfodydd ar ôl archwiliadau ac adolygiadau gyda'r Awdurdod Lleol lletyol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub perthnasol.

Bydd y Tîm Arolygu ar y Cyd hefyd yn tynnu sylw at y cynnig o arolygon ymwthiol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i annog mwy o fynegiannau o ddiddordeb i'r Gronfa Diogelwch Adeiladau gan berchnogion adeiladau/asiantiaid rheoli. Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru ar gael yma:

Amdanom Ni

Mae’r Tîm Archwilio ar y Cyd ar gyfer Diogelwch Adeiladau yng Nghymru wedi’i sefydlu i wella diogelwch adeiladau preswyl amlfeddiannaeth ledled Cymru. Daw'r fenter hon mewn ymateb i'r gefnogaeth gref a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynnig "Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru". Adnodd ychwanegol yw'r Tîm Archwilio ar y Cyd sy’n anelu at wella cynhwysedd archwilio awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub.

Ein Cenhadaeth

Prif genhadaeth y Tîm yw darparu cefnogaeth ymgynghorol i awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub. Bydd y tîm amlddisgyblaethol hwn sy'n cynnwys arbenigwyr mewn rheoli adeiladu, iechyd yr amgylchedd, tân ac achub, a pheirianneg tân yn cydweithio i gynnal archwiliadau trylwyr a darparu argymhellion manwl ar gyfer gwelliannau diogelwch.

Ein Dull

Bydd y Tîm Archwilio ar y Cyd yn cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub i ddatblygu proffil risg cynhwysfawr ar gyfer adeiladau uchel yng Nghymru. Bydd methodoleg yn seiliedig ar risg yn arwain y dewis o adeiladau i'w harchwilio gan sicrhau ffocws ar y strwythurau risg uchaf.

Gweithgareddau ac Effaith