Cwestiynau Cyffredin
Beth yw’r Tîm Archwilio ar y Cyd?
Mae’r Tîm Archwilio ar y Cyd yn dîm o swyddogion proffesiynol a sefydlwyd i archwilio adeiladau preswyl amlfeddiannaeth yng Nghymru. Ei nod yw cefnogi awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub drwy gynyddu’r capasiti archwilio a chanolbwyntio ar strwythur adeiladau a’r perygl o dân.
Pwy sy’n aelodau o’r Tîm Archwilio ar y Cyd?
Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr mewn rheoli adeiladu, iechyd yr amgylchedd, tân ac achub, a pheirianneg tân, ac fe’u harweinir gan Gydlynydd Strategol.
Pam y sefydlwyd y Tîm Archwilio ar y Cyd?
Cafodd y Tîm Archwilio ar y Cyd ei sefydlu yn dilyn yr ymgynghoriad “Adeiladau mwy diogel yng Nghymru” i gefnogi cydweithio agos rhwng asiantaethau gorfodi ac i hybu diogelwch adeiladau drwy archwiliadau cynhwysfawr ac argymhellion.
Sut y caiff adeiladau eu dewis ar gyfer eu harchwilio?
Mae’r amserlen archwilio wedi ei seilio ar asesiadau risg a gynhelir gan yr awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau lleol. Mae’n canolbwyntio ar adeiladau risg uchel ac ni all unigolion wneud cais am archwiliadau.
A oes gan y Tîm Archwilio ar y Cyd bwerau gorfodi?
Nac oes, rôl ymgynghorol sydd gan y Tîm Archwilio ar y Cyd, gan ddarparu cyngor ac argymhellion i awdurdodau gorfodi ond nid oes ganddo bwerau gorfodi.
Beth ddylai awdurdodau lleol ei wneud i baratoi ar gyfer archwiliad?
Mae angen i awdurdodau lleol roi hysbysiadau ffurfiol, trefnu mynediad a darparu dogfennaeth berthnasol i’r Tîm Arolygu ar y Cyd. Hefyd mae’n rhaid iddynt lofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda’r Tîm Archwilio ar y Cyd.
Pa ddogfennaeth sydd ei hangen ar gyfer archwiliad?
Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth gan y landlord neu’r Unigolyn Cyfrifol gan gynnwys cynlluniau llawr, strategaethau tân, asesiadau risg tân ac adroddiadau ymchwiliadau cladio.
Beth yw rôl lesddeiliaid yn ystod archwiliadau?
Caiff lesddeiliaid eu hysbysu ynglŷn ag archwiliadau ond nid oes angen iddynt fod yn bresennol. Mae archwiliadau fel arfer yn cynnwys sampl gynrychioliadol o eiddo.
Faint o amser mae archwiliadau’n eu cymryd a pha mor gyflym y caiff adborth ei ddarparu?
Mae archwiliadau fel arfer yn cymryd dau ddiwrnod llawn. Rhoddir adborth ar unwaith yn ymwneud â pheryglon sylweddol gydag adroddiad manwl yn cael ei ddarparu o fewn pedair wythnos a chyfarfod ôl-archwiliad o fewn chwe wythnos.
Manylion Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi ymholiadau, cysylltwch â ni:
Rhif ffôn: 07827124313
E-bost: info@jit.wales